Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Dyddiad: 10 Hydref 2012

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd

Teitl: Craffu ar y Gyllideb Ddrafft

 

Diben

 

Darparu papur tystiolaeth ar gyllidebau a blaenoriaethau'r Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Phlant o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

 

Cyflwyniad

 

Cyhoeddwyd y Gyllideb Ddrafft ar 2 Hydref 2012.  Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am gynigion cyllideb y dyfodol ar gyfer 2013-14 a 2014-15. 

 

Mae gwariant plant a phobl ifanc yn cwmpasu ystod o gyllidebau. Ceir tri Cam Gweithredu penodol o fewn y Prif Grŵp Gwariant Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant sy'n cwmpasu Gwasanaethau Plant, sef:

 

 

Trosolwg o'r Gyllideb - Newidiadau ers Cyllideb Derfynol 2011

 

Dengys y tabl isod y cyllidebau ar gyfer y tri Cham Gweithredu hwn adeg y Gyllideb Ddrafft.  Nodir manylion trosglwyddiadau unigol ar lefel Camau Gweithredu yn Atodiad A i'r papur hwn a cheir manylion cyllidebau ar lefel Llinellau Gwariant yn y Gyllideb yn Atodiad B i'r papur hwn

 

Refeniw

2013-14

2014-15

 

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

£m

 

£m

 

Llinell sylfaen

8.0

8.0

Newidiadau

0.4

0.4

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

8.4

8.4

 

 

 

Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

 

 

Llinell sylfaen

120.7

130.7

Dim Newid

 

 

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

120.7

130.7

 

Rhaglenni CAFCASS Cymru

Llinell sylfaen

Newidiadau

 

 

9.2

1.0

 

 

9.2

1.0

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

10.2

10.2

Cyfanswm y Refeniw

139.3

149.3

 

 

 

Cyfalaf

 

 

Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Llinell sylfaen

Newidiadau

 

 

12.0

 

 

4.0

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

12.0

4.0

Cyfanswm Cyfalaf

12.0

4.0

 

 

Newidiadau yn ystod y Flwyddyn Ariannol Gyfredol

 

Mae'r newidiadau arfaethedig ar gyfer 2013-14 o gymharu â'r flwyddyn ariannol gyfredol a'r cynlluniau dangosol fel y'u cyhoeddwyd adeg Cyllideb Derfynol Tachwedd 2011 fel a ganlyn:

 

 

2012-13 adeg Cyllideb Atodol Mehefin 2012

Cynlluniau Dangosol 2013-14

Cyllideb Arfaethedig 2013-14

Newid o'r Gyllideb Atodol

Newidiadau o'r Gyllideb Ddangosol

 

£m

£m

£m

£m

£m

Refeniw

 

 

 

 

 

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

7.4

8.0

8.4

1.0

0.4

Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

102.7

120.7

120.7

18.0

-

CAFCASS

9.6

9.2

10.2

0.6

1.0

Is-gyfanswm

119.7

137.9

139.3

19.6

1.4

 

 

 

 

 

 

Cyfalaf

 

 

 

 

 

Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

-

-

12.0

12.0

12.0

Is-gyfanswm

 

 

12.0

12.0

12.0

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm

119.698

137.9

151.3

31.6

13.4

 

Ceir crynodeb o'r prif newidiadau o gyllideb y flwyddyn gyfredol fel y'i cyhoeddwyd yng Nghyllideb Atodol Mehefin 2012 isod:

 

Refeniw

·         £1.025 miliwn o ranarian ar gyfer Plant Agored i Niwed

·         £16.500 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg

·         £1.500 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf

·         £0.527 miliwn o arian ychwanegol o ran costau rhedeg CAFCASS CYMRU

 

Cyfalaf

Newidiadau o gymharu â Chynlluniau Cyllideb Derfynol 2011

 

Mae'r newidiadau o gymharu â'r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd yn ystod Cyllideb Derfynol Tachwedd 2011 fel a ganlyn:

 

Refeniw

 

Cyfalaf

 

Yn ogystal â hyn, mae Awdurdodau Lleol yn cael arian fel rhan o'u setliad refeniw i ddarparu eu gwasanaethau plant a theuluoedd.  

 

Caiff y broses o ddarparu gwasanaethau'r GIG mewn perthynas â phlant, cyflyrau meddygol plant ac iechyd cyffredinol plant ei hariannu'n bennaf drwy'r dyraniadau refeniw blynyddol i Fyrddau Iechyd. Cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd yw pennu sut y caiff yr arian hwn ei ddefnyddio ymhob un o'u meysydd cyfrifoldeb i ddiwallu anghenion iechyd eu poblogaethau lleol.

 

Yn ogystal â'r symiau penodol a gyllidebwyd, mae sefydliadau'r GIG yn gwario tua £42 miliwn y flwyddyn ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (Ffynhonnell: Cyllidebau Rhaglenni Gwariant y GIG 2010-11; y Gyfarwyddiaeth Ystadegol; Llywodraeth Cymru 2012)

 

Cyllidebu ar gyfer Plant

 

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), adlewyrchwyd cyllidebu ar gyfer plant fel blaenoriaeth yng nghynllun gweithredu CCUHP i Gymru, sef 'Gwneud Pethau'n Iawn'.  Mae Blaenoriaeth 15 yn ymwneud â 'Gwella tryloywder y gwaith o gyllidebu ar gyfer plant a phobl ifanc ar lefel Llywodraeth Cynulliad Cymru’.  Caiff y flaenoriaeth hon hefyd ei hadlewyrchu yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu sef 'Parhau i wella tryloywder y gwaith o gyllidebu ar gyfer plant a phobl ifanc ar lefel Llywodraeth Cymru'.

 

Ers cyflwyno Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)  2011, mae dyletswydd statudol bellach ar bob un o Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i'r hawliau a'r rhwymedigaethau sy'n rhan o CCUHP wrth ddatblygu neu adolygu polisïau neu ddeddfwriaeth.  Mae'r ddyletswydd newydd hon yn golygu bod yn rhaid i swyddogion sy'n gweithio ar bolisïau a deddfwriaeth sicrhau Gweinidogion eu bod wedi cwblhau Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant a bod y polisi wedi ystyried hawliau plant a'i fod yn cydymffurfio â hawliau plant.  O ganlyniad, bydd pob penderfyniad cyllidebol yn ei dro yn adlewyrchu hawliau plant.  Mae hon yn ffordd llawer mwy effeithiol ac ystyrlon o ystyried hawliau plant fel rhan o'r broses o ystyried cyllidebau.  Mae hefyd yn newid sylweddol yn y ffordd y mae Gweinidogion Cymru a swyddogion yn gweithio ac, i raddau helaeth, yn ymdrin â phryderon CCUHP a'i argymhellion yn 2008 a Blaenoriaeth 15 Cynllun Gweithredu CCUHP y Llywodraeth.

 

Fel rhan o'n hymrwymiad i CCUHP, rydym wedi datblygu dau becyn cymorth. Mae un ohonynt yn canolbwyntio ar allu ariannol ac yn cynnig gweithgareddau dysgu a all helpu pobl ifanc 11-19 oed i reoli eu cyllid personol yn well.  Mae'r llall yn ymwneud â chyllidebu cyfranogol sy'n rhoi cyfle i awdurdodau lleol a'u partneriaid gynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau am y ffordd y caiff cyllidebau lleol eu gwario sy'n effeithio arnynt.  Cyflwynwyd y ddau adnodd hyn ar ffurf peilot ledled Cymru gyda phobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd gydag amrywiol lefelau gallu.   Bellach mae swyddogion yn Is-adran y Cwricwlwm, Uned Addysg Ariannol Cymru a'r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid wrthi'n datblygu'r adnoddau hyn.  Rydym wedi gofyn i gydweithwyr yn y Gangen Cymwysterau ystyried y pecynnau cymorth hyn a'r ffordd y gallent ategu'r gwaith sy'n mynd rhagddo ganddynt ar hyn o bryd.

 

Mae'r pecynnau cymorth yn ymddangos ar nifer o wefannau Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid a gellir eu defnyddio yn rhad ac am ddim. 

 

Am y tro cyntaf, rydym yn darparu gwybodaeth symlach am gynigion y Gyllideb i blant a phobl ifanc.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth am y Gyllideb yn fwy tryloyw i blant a phobl ifanc, ac i'r oedolion hynny a fydd yn dewis defnyddio'r fersiwn hon eu hunain.

 

Blaenoriaethau

 

Rhaglen Dechrau'n Deg

 

Rydym yn buddsoddi £74 miliwn ychwanegol (£55m o refeniw a £19m o gyfalaf) o 2012-13 hyd at 2014-15 o ran 'Dechrau'n Deg'.  Caiff hyn effaith sylweddol ar gyfleoedd bywyd y rheini sy'n byw mewn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

 

Rydym wedi rhoi fframwaith monitro trwyadl ar waith er mwyn asesu perfformiad awdurdodau lleol a'u hannog i wella.  Datblygwyd cynlluniau recriwtio a hyfforddi strategol er mwyn bodloni gofynion y broses ehangu sylweddol hon o ran y gweithlu:

 

 

Bydd y £19 miliwn o arian cyfalaf (y cytunwyd ar £3 miliwn ohono ar gyfer 2012-13 ond nad yw'n ymddangos yn nhablau'r gyllideb eto) yn golygu y gellir cymeradwyo cyfanswm o 131 o brosiectau ledled Cymru.

 

Mae tystiolaeth gwaith gwerthuso hyd yma yn awgrymu bod Dechrau'n Deg yn dechrau cael effaith gadarnhaol bendant ar blant. Er enghraifft, pan fyddant yn dechrau'r ysgol, maent yn barod i ddysgu ac yn fwy hyderus wrth gymysgu â phlant eraill. Dengys canfyddiadau diweddar fod rhieni Dechrau'n Deg yn nodi eu bod wedi gweld newidiadau cadarnhaol o ran ymddygiad eu plentyn a bod eu hyder fel rhiant wedi gwella.

 

Mae gweithgarwch gwerthuso yn mynd rhagddo a disgwylir i ail don yr arolwg hydredol gael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2013. Ar yr un pryd, byddwn hefyd yn cyhoeddi canfyddiadau gwaith ymchwil ansoddol gyda theuluoedd sydd wedi cymryd rhan yn Dechrau'n Deg. Bydd y ddau ddarn pwysig hwn o waith yn ystyried y defnydd a wneir o Dechrau'n Deg a phrofiadau ohono ac yn darparu tystiolaeth bellach o'i heffaith ar ymddygiad rhianta a datblygiad plant.

 

Cyflwyno Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (GICD)

 

Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol y cynllun arfaethedig ar gyfer cyflwyno GICD yn seiliedig ar fodel chwe rhanbarth yn unol â'r ôl troed diwygio gwasanaethau cyhoeddus.  Caiff Cymru gyfan ei chwmpasu drwy sefydlu 10 tîm GICD statudol, gyda dyletswyddau ar y 22 o awdurdodau lleol a'r 7 BILl i ddarparu GICD (ym maes rhieni sy'n camddefnyddio sylweddau) yn eu hardaloedd, sef:

 

 

·    Gogledd Cymru - dau dîm

·    Canolbarth a Gorllewin Cymru - dau dîm

·    Cwm Taf - un tîm

·    Caerdydd a'r Fro - un tîm

·    Gwent – dau dîm

·    Bae'r Gorllewin - dau dîm

 

Cam nesaf cyflwyno GICD fydd Cam 3 (Consortiwm Bae'r Gorllewin - Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe) y bwriedir ei roi ar waith ym mis Ionawr 2013.  Cynhelir Cam 4, sef cyflwyno GICD ymhellach yng Ngwent a Gogledd Cymru, erbyn diwedd 2013.

 

Tlodi Plant

 

Mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn ei gwneud yn bwysicach fyth i ni gadw at ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi plant. Ein prif flaenoriaeth yn ddiau yw sicrhau bod plant a phobl ifanc y mae tlodi yn effeithio ar eu bywydau yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phawb arall yng Nghymru.

 

Dyma pam mai Llywodraeth Cymru oedd un o'r sefydliadau cyntaf i basio deddfwriaeth benodol ar dlodi plant. Bellach, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill nodi pa gamau y maent yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant.

 

Rhoddodd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant Cymru, a phennu amcanion penodol ar gyfer gwella canlyniadau plant a theuluoedd sy'n byw mewn cartrefi incwm isel. Cyflawnodd Gweinidogion Cymru y ddyletswydd hon - nododd Strategaeth Tlodi Plant Cymru,  a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2011, yr hyn y gallwn ei gyflawni i helpu i leihau tlodi plant a gwella canlyniadau teuluoedd incwm isel.

Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn nodi tri amcan penodol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru, sef: 1) Lleihau nifer y plant sy'n byw mewn cartrefi heb waith; 2) Gwella sgiliau pobl ifanc a rhieni er mwyn iddynt allu dod o hyd i swydd â chyflog da; a 3) Lleihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli ar hyn o bryd o ran canlyniadau iechyd, canlyniadau addysg a chanlyniadau economaidd plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi.

 

Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn nodi dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, a lansiwyd ym mis Mehefin 2012fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu newydd, yn cynnwys y tri amcan strategol ac yn adlewyrchu'r ymrwymiad i ddileu Tlodi Plant erbyn 2020.  Bydd y cynllun yn darparu diweddariadau rheolaidd ac mae'n cynnwys manylion canlyniadau mesuradwy er mwyn dangos cynnydd wrth roi'r strategaeth tlodi plant ar waith.

 

O ganlyniad i'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, llwyddwyd i sefydlu system gydweithredol yn cynnwys holl adrannau Llywodraeth Cymru a'n partneriaid i fynd i'r afael â'r materion difrifol iawn sy'n achosi tlodi yng Nghymru.  Bydd hyn yn atgyfnerthu ein dull o fynd i'r afael â thlodi plant gan y bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ystod ehangach o raglenni i fynd i'r afael â thlodi gan ein helpu i ymdrin â chaledi sy'n effeithio ar genedlaethau gwahanol sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn.

 

Mae ein gallu i leihau tlodi plant yng Nghymru yn amlwg yn dibynnu ar gamau a gymerir gan Lywodraeth y DU, yn arbennig mewn meysydd annatganoledig megis treth a thaliadau lles.Rydym yn rhannu'r pryderon sydd gan lawer o bobl am gyflymdra'r diwygiadau lles a budd-daliadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gweithredu, a'r effeithiau posibl y bydd y newidiadau hyn yn eu cael ar blant yng Nghymru.

 

Dywed ein ffigurau diweddaraf wrthym fod lefelau tlodi yng Nghymru yn parhau'n gyndyn o uchel ac mae'r cynnydd a wnaed gennym yn ystod rhan gyntaf y degawd diwethaf bellach wedi'i atal. Er bod nifer o ffactorau polisi sy'n effeithio ar fynd i'r afael â thlodi incwm (megis newidiadau i'n system treth a budd-daliadau) o dan reolaeth Llywodraeth y DU, mae gan Lywodraeth Cymru ran hanfodol i'w chwarae - yn enwedig o ran gwella cyflogaeth, addysg, sgiliau a chanlyniadau iechyd teuluoedd incwm isel yn y tymor hwy.

 

Dyletswydd Awdurdodau Lleol i ddatblygu Strategaethau Tlodi Plant:

 

Mae swyddogion yn gweithio gyda swyddogion Byrddau Gwasanaethau Lleol i sicrhau bod camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi plant wedi'u nodi'n glir o fewn y Cynllun Gwella Ysgolion. Bwriedir cynnal gweithdy i ystyried y pecyn cymorth ar gyfer hunanasesu tlodi plant ar 19 Hydref. Mae croeso i unrhyw swyddogion BGLl ddod i'r gweithdy a fydd yn anelu at nodi a rhannu arfer gorau. Defnyddir contract Child Poverty Solutions Wales i hwyluso'r digwyddiad hwn.

 

 

Teuluoedd yn Gyntaf - Ffocws ar Anabledd

 

Roedd y Cynlluniau Teuluoedd yn Gyntaf sydd oll wedi'u cymeradwyo yn gofyn am ffocws penodol ac ychwanegol ar gymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd anabl. Neilltuwyd swm o £3,000,000 y flwyddyn i gefnogi gwaith yn y maes hwn.

 

Darparwyd enghreifftiau o waith â blaenoriaeth yng nghanllawiau'r rhaglen a nodwyd mewn cydweithrediad â'r ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri.

 

Bydd gwerthusiad y rhaglen yn cyflwyno adroddiad blynyddol ar y defnydd o'r arian hwn ar arian cyffredinol y rhaglen.

 

Camddefnyddio Sylweddau

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i neilltuo £3m o'r £22m a ddyrannwyd ym maes camddefnyddio sylweddau i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol ledled Cymru er mwyn datblygu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i bobl ifanc o dan 18 oed. Er mwyn helpu partneriaethau i wneud hyn, ym mis Ionawr 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o ganllawiau arfer da ar ofal integredig i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed sy'n camddefnyddio sylweddau.

 

Gofal Newyddenedigol

 

Nododd adroddiad Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Ofal Newyddenedigol, a gyhoeddwyd ar 12 Medi 2012, nifer o feysydd pwysig lle y gwnaed cynnydd ym maes gwasanaethau gofal newyddenedigol yng Nghymru. Bu gwelliannau amlwg o ganlyniad i gyflwyno'r system lleoli cotiau, defnyddio system gwybodaeth glinigol BadgerNet a'r gwasanaethau cludo babanod newydd-anedig 12 awr penodedig yng Ngogledd a De Cymru. Mae'r Pwyllgor wedi gwneud 14 o argymhellion gan gynnwys yr angen i ymdrin â'r diffyg o ran staff meddygol a staff nyrsio a dosbarthu a defnyddio cotiau yn effeithiol. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried ei hymateb i'r adroddiad y disgwylir iddi ei gyflwyno ar 24 Hydref.

 

Ym mis Mai 2012, gofynnodd Cyfarwyddwr y GIG i Brif Weithredwyr BILlau adolygu eu cynlluniau gweithredu newyddenedigol o ystyried yr adolygiad o gapasiti ac Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Ofal Newyddenedigol. Adolygwyd y cynlluniau hyn gan arweinydd y Rhwydwaith Newyddenedigol a chyfres o ymweliadau a gynhaliwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru i Fyrddau Iechyd. Daeth y Rhwydwaith Newyddenedigol i'r casgliad y bu cynnydd cyffredinol amlwg ers 2011 i ymdrin â materion yn deillio o'r adolygiad o gapasiti ac er mwyn cydymffurfio â Safonau Cymru Gyfan. Bellach mae gan bob Bwrdd Iechyd gynlluniau cadarn ar waith i ddatblygu gwasanaethau newyddenedigol er bod y cynnydd a wneir ar gyfraddau

gwahanol.  Bydd tîm y Rhwydwaith yn parhau i helpu Byrddau Iechyd i ddatblygu cynlluniau a'u rhoi ar waith. Bydd Swyddogion Llywodraeth Cymru ac aelodau o'r Rhwydwaith Newyddenedigol yn cynnal ymweliadau dilynol i bob Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn monitro cynnydd yn erbyn argymhellion y pwyllgor.

 

 

CAMHS

 

Ym mis Mehefin 2010, lansiodd Llywodraeth y Cynulliad gynllun gweithredu cenedlaethol i wella gwasanaethau iechyd meddwl plant, sef Chwalu'r Rhwystrau: Ateb y Sialensau, gyda dau grŵp amlasiantaeth yn helpu ac yn bwrw ati â gwaith y cynllun gweithredu.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi atgyfnerthu'r amrywiaeth o CAMHS ledled Cymru, gan gynnwys mynediad i CAMHS arbenigol.  Ers 2008, rydym wedi buddsoddi £6.9 miliwn ychwanegol yn y gwasanaethau hyn, ac er mwyn ategu hyn mae'r Adran Addysg a Sgiliau wedi darparu £8 miliwn i ddatblygu gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion, gydag ysgolion uwchradd yn gallu cynnig cyngor emosiynol i blant a'u tywys at wasanaetahu eraill i gael cymorth, gan gynnwys CAMHS arbenigol, lle y bo angen.

 

Dangosodd gwaith mapio annibynnol a wnaed gan Brifysgol Durham o'r ddarpariaeth CAMHS, ar draws blynyddoedd 2006-07, 2008-09 a 2010-11, gynnydd o 25% yng gweithlu CAMHS yn ystod y cyfnod hwn.  Dangosodd hefyd dwf yn nifer yr achosion a'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd a gostyngiadau mewn rhestrau aros ac amseroedd aros.

 

Yn ogystal, cafodd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Gydsyniad Brenhinol yn 2010, ac mae wrthi'n cael ei gychwyn yn ystod 2012.  Bydd yn cefnogi gwasanaethau i blant a phobl ifanc drwy ehangu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, gan ein bod yn gwybod mai ar lefel gofal sylfaenol y mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio gwasanaethau ac y mae angen gwasanaethau arnynt ac yn sicrhau y caiff gofal ei gynllunio a'i gydgysylltu'n well er mwyn sicrhau bod pobl â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn cael yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnynt.  Caiff y Mesur ei ategu gan £5.5m o arian blynyddol.

 

O fis Hydref 2012, caiff y cyfeiriad strategol ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc ei ddwyn ynghyd ag iechyd meddwl oedolion a phobl hŷn i greu strategaeth newydd i bobl o bob oedran - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.  Caiff llawer o'n cymorth ariannol i CAMHS ei gynnwys o fewn dyraniadau BILlau a'i ychwanegu at yr arian a neilltuwyd ar gyfer iechyd meddwl o 2013-14 (£2.035m i'w drosglwyddo yn erbyn cyfanswm cyllideb o £2.075m).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

ATODIAD A i Bapur y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc - Craffu ar y Gyllideb Ddrafft

 

Crynodeb o'r Newidiadau i 'Linellau'r gyllideb camau gweithredu' yn 2013-14

 

1. Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

 

Mae hwn yn ariannu amrywiaeth o raglenni a datblygiadau polisi i gefnogi plant sy'n agored i niwed, gan gynnwys Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd a gwaith ar warchod a diogelu. .  Ceir cynnydd net o £0.396 miliwn yn 2013-14 o ganlyniad i'r trosglwyddiadau canlynol rhwng Camau Gweithredu. 

 

 

 

 

2.  Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

 

Mae'r Cam Gweithredu hwn yn darparu amrywiaeth o gymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd i'w helpu i gyflawni eu potensial. Mae rhaglenni wedi'u targedu fel Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg wedi'u cyfeirio at ein teuluoedd mwyaf difreintiedig er mwyn helpu i godi pobl o dlodi a rhoi gwell canlyniadau addysg, iechyd ac economaidd iddynt, ac mae rhaglenni ehangach yn cefnogi gofal plant a chwarae. Mae'r Cam Gweithredu hefyd yn ategu dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran cynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni sy'n rhoi hawliau'r plentyn wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Ceir cynnydd mewn arian cyfalaf ar gyfer y Cam Gweithredu hwn fel a ganlyn:

 

 

DS: Ni chaiff y cyfalaf ychwanegol o £3 miliwn y cytunwyd arno yn 2012-13 ei gynnwys yn y tablau a gyhoeddir ar gyfer y gyllideb tan y Gyllideb Atodol nesaf yn ystod y flwyddyn (Ionawr 2013)

 

 

3.  Rhaglenni CAFCASS Cymru 

 

Mae CAFCASS Cymru yn sefydliad gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar blant sy'n darparu cyngor arbenigol o safbwynt gwaith cymdeithasol i lysoedd achosion teuluol, y Llysoedd Sirol a'r Uchel Lys.  Mae'r arian hwn yn cefnogi dyletswyddau craidd y sefydliad, yn ogystal â rhwymedigaethau o dan Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 gan gynnwys darparu canolfannau cyswllt a gweithgareddau cyswllt.  Ceir cynnydd o £0.995 miliwn yn 2013-14 fel a ganlyn: